Ynni clyfar GB yn gwneud ynni'n weladwy yn Eistedfodd genedlaethol Cymru
Heddiw (Dydd Mawrth 2il o Awst), goleuodd y dawnsiwr clocsiau Tudur Phillips Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Mi recriwtiodd Tudur Phillips, dawnsiwr clocsiau ysgubol o Gymru a chyflwynydd ar S4C, ymwelwyr oedd yn cyrraedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru i weld faint o ynni yr oeddent yn medru ei gynhyrchu gyda'u traed.
Roedd Tudur yn yr Eisteddfod gydag Ynni Clyfar GB, llais yr ymgyrch cyflwyno mesuryddion clyfar, i wneud ynni'n weladwy gan ddefnyddio llwybr troed technoleg glyfar gan ddefnyddio teils cinetig, a grëwyd gan y cwmni technoleg lân Pavegen.
Trwy alluogi ymwelwyr i gynhyrchu ynni a gweld faint o funudau o ddefnyddio ynni y gall eu camau troed eu 'pweru', amcan Ynni Clyfar GB oedd dangos trwy ddull gweledol y rheolaeth y bydd mesuryddion clyfar yn eu darparu yn y ffordd yr ydym yn defnyddio ynni yn ein cartrefi.
Cynhyrchodd Tudur a’i ddawnswyr gwirfoddol ynni trwy ddawnsio ar y bont. Ar sgrîn fawr tu ôl iddynt hwy, datgelwyd mewn munudau ac eiliadau am faint yr oedd modd i Tudur a'i wirfoddolwyr bweru bwlb golau a gliniadur neu wefru ffôn symudol.
Bydd mesuryddion clyfar yn cael eu cynnig i bob aelwyd am ddim erbyn 2020 fel rhan o ymgyrch genedlaethol i drawsnewid y ffordd yr ydym yn prynu ac yn defnyddio ein nwy a thrydan. Bydd y dechnoleg newydd hon yn dod â biliau wedi'u hamcangyfrif i ben ac yn dangos i ni, trwy sgrîn ynni cartref syml, faint rydym yn ei wario mewn punnoedd a cheiniogau, bron mewn amser real.
Meddai Fflur Lawton, Pennaeth Polisi a Chyfathrebu Cymru Ynni Clyfar GB: Roeddem yn dangos i ymwelwyr â'r Eisteddfod y gall technoleg glyfar wneud ynni'n weladwy - a'n helpu mynnu rheolaeth arno. Mae mesuryddion clyfar yn dod i bob cartref, gan roi gwybodaeth gywir a thryloywder ar yr hyn rydym yn ei wario, a thrawsnewid y ffordd yr ydym yn defnyddio nwy a thrydan yn ein cartrefi."
Meddai Tudur Phillips: “Mae’n wych i fedru cymryd rhan mewn ymgyrch mor gyffrous, gan ei gwneud hi’n haws i bobl weld a deall eu defnydd ynni. Mae dawnsio clocsiau’n weithgaredd ynni uchel, a gallwch weld faint o ynni rydym yn ei gynhyrchu trwy ddawnsio ar y teils.”
Meddai Prif Weithredwr a Sylfaenydd Pavegen, Laurence Kemball-Cook, dyfeisiwr y slabiau ynni: “Dyma'r tro cyntaf i ni arddangos technoleg Pavegen yng Nghymru ac rydym yn falch iawn o fod yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni. Mae data o'n teils yn galluogi ymwelwyr i weld faint o ynni y gallant ei gynhyrchu gyda’u camau traed."
Nodiadau i olygyddion
Ynglŷn ag Ynni Clyfar GB
Ynni Clyfar GB yw llais yr ymgyrch cyflwyno mesuryddion clyfar. Ein tasg ni yw helpu pawb ym Mhrydain Fawr i ddeall mesuryddion clyfar, yr ymgyrch gyflwyno genedlaethol a sut i ddefnyddio'r mesuryddion newydd i gadw rheolaeth ar eu nwy a'u trydan. Mae ein hymgyrch genedlaethol eisoes wedi dechrau a bydd yn cyrraedd pob aelwyd a microfusnes yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Ynglŷn â mesuryddion clyfar a'r ymgyrch
Bydd mesuryddion clyfar yn disodli'r mesuryddion nwy a thrydan traddodiadol sydd gennym yn ein cartrefi ar hyn o bryd. Byddant yn darparu biliau cywir, gwybodaeth bron mewn amser real am y defnydd o ynni mewn punnoedd a cheiniogau, a rheolaeth well i ddefnyddwyr dros eu nwy a thrydan. Mae'r ymgyrch cyflwyno mesuryddion clyfar yn uwchraddiad technolegol hanfodol, digynsail ei graddfa, i wella isadeiledd ynni Prydain Fawr. Rhwng nawr a 2020 bydd mesurydd clyfar yn cael ei gynnig i bawb ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban gan eu cyflenwyr ynni heb unrhyw gost ychwanegol. Mae mwy na 3.5 miliwn o fesuryddion clyfar eisoes wedi'u gosod. I gael gwybod sut y gallwch chi gael mesurydd clyfar gan eich cyflenwr ynni, codwch daflen o'ch cangen Swyddfa'r Post leol neu ewch yma.
Ynghylch Pavegen
Pavegen yw dyfeisiad Laurence Kemball-Cook, 30 oed, peiriannydd dylunio diwydiannol a graddedig Prifysgol Loughborough. Datblygodd y Prif Weithredwr a sylfaenydd Pavegen y cysyniad yn 2009, wrth iddo ymchwilio i atebion ynni cinetig oddi ar y grid nad yw technolegau carbon isel fel ynni'r haul a gwynt yn addas ar eu cyfer. Ers hynny maent wedi gweithio gyda brandiau mwyaf y byd, gan gynnwys Shell, Coca-Cola, Samsung, Lexus, Harrods a Heathrow. Gellir defnyddio teils Pavegen mewn lleoliadau dan do ac awyr agored ac maent yn gweithio orau ble mae llawer o bobl yn cerdded, fel bothau manwerthu a chludiant. Mae'r dechnoleg wedi'i hintegreiddio'n graff o dan droed yn yr amgylchedd sydd eisoes yn bodoli. Mae unedau Pavegen ar gael hefyd ar ffurf fodiwlaidd i'w defnyddio mewn digwyddiadau fel arddangosfeydd ac ymgyrchoedd marchnata, i ddangos eu hymrwymiad i arloesedd, cynaladwyedd a mentrau CSR. Mae technoleg Pavegen yn canolbwyntio ar Llawr, Ynni a Data, gan newid ei ffocws o weledigaeth cinetig yn unig i loriau clyfar a’r busnes data.
Cysylltiadau cyfryngau Ynni Clyfar GB
Am fwy o wybodaeth gan gynnwys gofyn am gyfweliadau, cysylltwch â thîm Ynni Clyfar GB:
Elin Llyr, Deryn: [email protected]; 07762 504016
Lowri Kenny: [email protected]; 07739 644271