Canfyddiadau diweddaraf ar effaith mesuryddion clyfar gan y Rhagolwg ynni clyfar
Heddiw, mae Ynni Clyfar GB, llais yr ymgyrch cyflwyno mesuryddion clyfar, yn cyhoeddi ei bedwerydd Rhagolwg ynni clyfar, y baromedr annibynnol mwyaf o farn gyhoeddus genedlaethol ar ynni a mesuryddion clyfar.
Mae'r rhifyn diweddaraf hwn o'r Rhagolwg ynni clyfar wedi gweld bod bron wyth o bob deg (79 y cant) o'r bobl sydd â mesuryddion clyfar yn barod yn eu hargymell i bobl eraill, a bod cyfran debyg (80 y cant) yn cymryd camau i leihau eu defnydd o ynni. Mae'r canfyddiadau hyn yn gyson â rhifynnau blaenorol.
Mae'r rhagolwg ynni clyfar yn dangos hefyd bod sgriniau ynni cartref (IHD) yn cael effaith gadarnhaol ar helpu pobl i reoli eu hynni. Mae IHD yn declyn llaw syml a gynigir i bob cartref am ddim pan osodir mesurydd clyfar. Maent yn dangos i bobl faint maen nhw'n ei wario ar ynni bron mewn amser real, mewn punnoedd a cheiniogau.
Dengys ymchwil Ynni Clyfar GB fod 83 y cant o bobl yn manteisio ar y cynnig o IHD. Mae bron naw o bob deg (87 y cant) o'r rhai sydd ag IHD yn dweud bod ganddynt syniad gwell o faint maen nhw'n ei wario ar ynni, o'i gymharu â 69 y cant o'r rhai sydd â mesurydd clyfar y maent wedi dewis peidio â manteisio ar y cynnig o IHD.
Cyflawnir y Rhagolwg ynni clyfar dros Ynni Clyfar GB dwywaith y flwyddyn gan yr asiantaeth ymchwil annibynnol, Populus. Mae'n cynnal arolwg o fwy na 10,000 o bobl ar draws y wlad, ac mae adroddiad heddiw wedi nodi'r canlynol:
- Byddai bron wyth o bob deg (79 y cant) o bobl sydd â mesuryddion clyfar yn eu hargymell i bobl eraill
- Mae wyth o bob deg (80 y cant) o bobl sydd â mesuryddion clyfar wedi cymryd o leiaf un cam i leihau eu defnydd o ynni
- Mae dros wyth o bob deg (84 y cant) o bobl sydd â mesuryddion clyfar yn dweud bod ganddynt syniad gwell o'u costau ynni
- Mae wyth deg saith y cant o'r rhai sydd ag IHD yn dweud bod ganddynt syniad gwell o faint maen nhw'n ei wario ar ynni, o'i gymharu â 69 y cant o'r rhai sydd â mesurydd clyfar nad oes ganddynt IHD
- Mae saith deg wyth y cant o bobl sydd ag IHD yn ei wirio'n rheolaidd (o leiaf nifer o weithiau bob mis)
Bydd pawb ym Mhrydain Fawr yn cael y cyfle i uwchraddio i fesurydd clyfar rhwng nawr a 2020, heb unrhyw gost ychwanegol. Mae mesuryddion clyfar yn dod â biliau wedi'u hamcangyfrif i ben ac yn dangos i bobl faint maen nhw'n ei wario mewn punnoedd a cheiniogau, bron mewn amser real, trwy sgrîn ynni cartref.
Gan roi ei sylwadau ar y canfyddiadau, Meddai Sacha Deshmukh, Prif Weithredwr Ynni Clyfar GB:
“Mae miliynau o aelwydydd eisoes yn elwa o fesuryddion clyfar, ac mae ein hymchwil ddiweddaraf yn dangos bod pobl ledled y wlad yn defnyddio'r dechnoleg newydd yn eu cartrefi i fynnu rheolaeth ar eu nwy a'u trydan. Mae pobl sydd â mesuryddion clyfar yn gwybod llawer mwy am faint o nwy a thrydan maen nhw'n ei ddefnyddio, ac yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros eu defnydd o ynni a'u biliau.
“Mae'r adroddiad heddiw hefyd yn egluro pwysigrwydd yr uned arddangos fach syml a gynigir i bob aelwyd pan osodir eu mesurydd clyfar. Cynigir y rhain gan bob cyflenwr ynni heb unrhyw gost ychwanegol, gan olygu y gall pawb weld ar gip faint maen nhw'n ei wario - gan gynnwys y rhai na allant gael mynediad at y rhyngrwyd yn hawdd gartref."
-DIWEDD-
Nodiadau i olygyddion
1. Gellir dod o hyd i'r adroddiad Rhagolwg ynni clyfar diweddaraf yma.
2. Gellir lawrlwytho adroddiadau Rhagolwg ynni clyfar blaenorol yma.
3. Cyflawnir y Rhagolwg ynni clyfar gan Populus, fe holodd 10,163 o bobl ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban. Dyma'r darn annibynnol mwyaf o fewnwelediad i agweddau pobl tuag at ynni a mesuryddion clyfar. Cynhelir yr ymchwil dwywaith y flwyddyn.
Ynglŷn ag Ynni Clyfar GB
Ynni Clyfar GB yw llais yr ymgyrch cyflwyno mesuryddion clyfar. Ein tasg ni yw helpu pawb ym Mhrydain Fawr i ddeall mesuryddion clyfar, yr ymgyrch gyflwyno genedlaethol a sut i ddefnyddio'r mesuryddion newydd i gadw rheolaeth ar eu nwy a'u trydan. Mae ein hymgyrch genedlaethol eisoes wedi dechrau a bydd yn cyrraedd pob aelwyd a microfusnes yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Ynglŷn â mesuryddion clyfar a'r ymgyrch
Bydd mesuryddion clyfar yn disodli'r mesuryddion nwy a thrydan traddodiadol sydd gennym yn ein cartrefi ar hyn o bryd. Byddant yn darparu biliau cywir, gwybodaeth bron mewn amser real am y defnydd o ynni mewn punnoedd a cheiniogau, a rheolaeth well i ddefnyddwyr dros eu nwy a thrydan. Mae'r ymgyrch cyflwyno mesuryddion clyfar yn uwchraddiad technolegol hanfodol, digynsail ei graddfa, i wella isadeiledd ynni Prydain Fawr. Rhwng nawr a 2020 bydd mesurydd clyfar yn cael ei gynnig i bawb ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban gan eu cyflenwyr ynni heb unrhyw gost ychwanegol. Mae mwy na 3.5 miliwn o fesuryddion clyfar eisoes wedi'u gosod. I gael gwybod sut y gallwch chi gael mesurydd clyfar gan eich cyflenwr ynni, codwch daflen o'ch cangen Swyddfa'r Post leol neu ewch yma.
Cysylltiadau cyfryngau Ynni Clyfar GB
Am fwy o wybodaeth gan gynnwys gofyn am gyfweliadau, astudiaethau achos o ddefnyddwyr mesuryddion clyfar, siartiau gwybodaeth, ffotograffiaeth a chynnwys fideo, cysylltwch â thîm cyfryngau Ynni Clyfar GB:
Ynni Clyfar GB:
Fflur Lawton: [email protected]; 0292 050 4783 (Cardiff)/ 0203 751 0738 (London)